Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ecocardiograffydd
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Work pattern to be discussed)
Cyfeirnod y swydd
050-HS032-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
07/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ffisiolegydd cardiaidd arbenigol iawn - Ecocardiograffydd

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle wedi codi ar gyfer Ecocardiograffydd brwdfrydig, profiadol a chymwys i ymuno â'n tîm. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus achrediad BSE, a bydd yn gymwys i roi adroddiadau eco annibynnol, gan ddarparu addysg i staff meddygol a staff ffisioleg. Bydd gennych BSc mewn Ffisioleg Glinigol neu gyfwerth, cofrestriad RCCP ac ILS / ALS.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Pan mae hi'n dod i atyniadau, mae Gogledd Cymru yn cynnig rhywbeth sy'n addas i bawb, gydag ystod odidog o fynyddoedd, traethau amrywiol a bywyd awyr agored gwych, rydym yn cynnig cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith sy'n anodd ei guro. Rydym yn gobeithio darparu gwasanaeth eco straen yn y dyfodol agos.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol, a byddwn yn darparu cyfle, anogaeth a chefnogaeth i ffisiolegwyr sy'n dymuno parhau i ddatblygu eu sgiliau. Rydym yn adran flaengar, sy'n gweithio ar hyn o bryd tuag at achrediad BSE adrannol. 

Os hoffech fod yn rhan o'n dyfodol, gyda thîm cyfeillgar ac ymroddedig, byddem yn croesawu eich cais.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais. 

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cwblhau Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr MSc (STP) neu gyfwerth (e.e. BSc mewn Ffisioleg Glinigol neu HTEC MPPM gyda SCST Rhannau I a II)
  • Gradd Meistr Berthnasol neu gyfwerth - Ecocardiograffydd Ardystiedig, ag achrediad cyfredol Cymdeithas Ecocardiograffeg Prydain
  • Wedi cofrestru gyda RCCP
  • ILS
Meini prawf dymunol
  • ALS
  • Hyfforddiant neu Gymhwyster Arwain

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o sganio ymreolaethol ac adrodd ar Ecocardiogramau ar ôl cymhwyso
  • Gallu defnyddio gwybodaeth arbenigol a thechnegol am uwchsain cardiaidd yn unol ag arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth
  • Gallu defnyddio gwybodaeth arbenigol a thechnegol o ystod o beiriannau uwchsain cardiaidd / systemau adrodd
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i weithio fel ymarferydd annibynnol o fewn ecocardiograffeg

Gwybodaeth a sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu perfformio ystod eang o dechnegau cardiolegol a ddefnyddir yn yr adran
  • Y gallu i ddefnyddio gwybodaeth lefel ôl-raddedig arbenigol eang, trylwyr a chyfoes ar draws yr ystod lawn o ymchwiliadau ffisioleg gardiaidd gan gynnwys technegau uwch fel ecocardiograffeg Straen a Doppler Meinwe
Meini prawf dymunol
  • Byddwch yn hynod arbenigol mewn ystod lawn o weithdrefnau ecocardiograffeg, gan gynnwys ecocardiograffeg straen, cyferbyniad neu TOE
  • Y gallu i siarad Cymraeg

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Yn gweithio'n dda fel aelod o dîm
  • Gallu gweithio'n annibynnol
  • Gallu gweithio dan bwysau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac argyfyngus
Meini prawf dymunol
  • Gallu cymryd yr awenau ac arwain tîm

Ymdrech Corfforol

Meini prawf hanfodol
  • Deheurwydd llaw ardderchog a chydlyniad angenrheidiol i lywio offer arbenigol

Ymdrech meddwl

Meini prawf hanfodol
  • Canolbwyntio wrth gynnal ymchwiliadau cardiolegol a chyfrifo canlyniadau

Ymdrech Emosiynol

Meini prawf hanfodol
  • Gallu delio â chleifion cynhyrfus neu ddryslyd
  • Delio â chleifion sâl a all fod yn derfynol wael a/neu mewn llawer iawn o anghysur mewn modd sympathetig a chydymdeimladol

Amodau gwaith

Meini prawf hanfodol
  • yn ofynnol yn aml i gynnal profion ar gleifion sy'n heintus, sydd â chyflyrau trallodus neu arogleuon corff

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Catrin Eiri Williams
Teitl y swydd
Head of Cardiology Investigations
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01248 384058
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Am wybodaeth bellach am y swydd hon, cysylltwch â

Victoria Easton

01248 384058 / [email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg