Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Clerc ward
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Clerc ward i ddarparu cymorth gweinyddol i'r tîm nyrsio a meddygol ar CCU (uned gofal coronaidd) ar gyfer cleifion cardiaidd sâl acíwt.
Mae'r cyfle wedi codi i chi ymuno ward feddygol brysur yn darparu cefnogaeth weinyddol gynhwysfawr i staff nyrsio a meddygon yn y Ward.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod agwedd hynod o hyblyg i weithio gan y bydd angen dros 5 diwrnod yr wythnos. Rhaid iddynt fod â phersonoliaeth ddymunol ac agwedd gadarnhaol tuag at eu gwaith. Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod â safon dda o addysg, fod yn hyblyg ac yn meddu ar sgiliau trefnu da. Mae modd proffesiynol dros y ffôn yn hanfodol i dderbyn ac ymateb yn gwrtais i bob ymholiad dros y ffôn ynglŷn â gofal cleifion.
Mae'r clercod ward yn rhan annatod o dîm y ward a'r sefyllfa clerc ward yn gofyn am sgiliau gweithio mewn tîm a rheoli amser da.
Mae'r gallu I siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Sicrhau ansawdd data cynhwysfawr ar gyfer cleifion ar CCU. (Uned Gofal Coronaidd). Cefnogi'r staff nyrsio gyda dyletswyddau gweinyddol. Diweddaru rhestrau wardiau. Delio â galwadau ffôn. Sicrhau bod nodiadau meddygol ar gael a'u ffeilio yn unol â hynny.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- TGAU Saesneg/Mathemateg neu gyfatebol
Meini prawf dymunol
- NVQ lefel 2 mewn Gweinyddu
- NVQ mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
- ECDL
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gweithio gyda’r cyhoedd
- Gweithio mewn swyddfa brysur
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y sector gofal iechyd
- Profiad cyffredinol o waith gweinyddu
Cymhwyster a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau TG/Cyfrifiadurol
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu effeithiol
- Siradwr Cymraeg
Meini prawf dymunol
- PIMS / IFIT
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd cadw cofnodion meddygol
- Gwybodaeth am ddiogelu data a chyfrinachedd cleifion
- Dealltwriaeth o Reoli Risg ac Iechyd a Diogelwch
GWERTHOEDD
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol
- Trefnus, prydlon, dibynadwy a brwdfrydig
- Yn hyderus Yn ddibynadwy
- Dull da ar y ffôn Aelod o dîm
- Yn gallu cynnal cyfrinachedd Cyfathrebu agored a gonest
Meini prawf dymunol
- Synnwyr digrifwch da
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mrs Abi Townshend
- Teitl y swydd
- Assistant Service Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 842475
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Dim ond ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Gwener.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector