Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Dirprwy Reolwr Gweithrediadau CAMHS ac NDS
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae'r cyfle cyffrous hwn wedi codi i berson profiadol a gwybodus sydd â phrofiad busnes a gweithredol i gwmpasu swydd llawn amser y Dirprwy Reolwr Gweithrediadau – Gwasanaethau Plant y Gorllewin CAMHS ac NDS/LD.
Mae'r swydd hon yn rôl allweddol yn Nhîm Ardal y Gorllewin ac mae'n hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau diogel ac effeithiol i Blant a'u teuluoedd. Mae'n rôl Band 7 sy'n cynnwys arwain a rheoli holl staff Gweithredol / Cymorth Busnes / Gweinyddol a Chlerigol Plant mewn CAMHS ac NDS/LD. Mae rheoli cyllid a pherfformiad yn rôl allweddol a chefnogi'r Rheolwyr Gwasanaeth ac Arweinwyr Tîm.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Dyma rôl arweinyddiaeth allweddol gyda chyfrifoldeb dros ddarpariaeth gweithredol holl agweddau gwasanaethau llym, cymuned a CAMHS. Mae gofyn i ddeilydd y swydd ddirprwyo yn absenoldeb y Rheolwr Gweithrediadau ac i reoli gwasanaethau fel y dirprwyir gan y Rheolwr Gweithrediadau. Weithiau bydd deilydd y swydd yn rheoli perfformiad ei faes yn uniongyrchol ac mewn meysydd eraill a ddirprwyir iddynt a bydd angen iddynt weithio gyda thimau rheoli clinigol a gwasanaeth i gyflawni'r nodau gofynnol. Mae gofyn i ddeilydd y swydd gynrychioli'r meysydd gwasanaeth i Randdeiliaid allweddol o fewn y Bwrdd Iechyd a thu allan iddo
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y
swydd hon
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Rheoli Gweithredol
Rheoli gwasanaethau, adnoddau a pholisi
Cynllunio Gwelliannau a Moderneiddio Gwasanaeth
Datblygu'r Gweithlu / Adnoddau Dynol
Ansawdd a Diogelwch
Gwybodaeth a Chyfathrebu
Cyfrifoldebau Allweddol Eraill
Manyleb y person
Cymwysterau ac Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd cymwysterau/diploma
- Gwybodaeth - perfformiad/ rheoli / systemau
- tystiolaeth o flaenoriaethau Llywodraethu/IG/BCUHB
Meini prawf dymunol
- Addysg ôl-raddedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad cyllid/AD/prosiect
- Profiad blaenorol NHS
Meini prawf dymunol
- Rheoli Newid
- rheoli rhestrau aros
galluoedd dawn
Meini prawf hanfodol
- Cyfarthrebu
- arweinyddiaeth
- Sgiliau IT
- Siaradwr Cymraeg
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau adeiladu tîm
- Gwerthoedd BIPBC
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jo Douglas
- Teitl y swydd
- Interim Operations Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000852254
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
NA
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector