Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
050-AC521-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty GWYNEDD HOSPITAL
Tref
BANGOR
Cyflog
£51,706 - £58,210 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Prif Swyddog Cyllid Cynorthwyol

Gradd 8a

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig i weithio fel aelod o dîm Cyllid Cyfrifon Rheoli Ysbyty Gwynedd ym Mangor fel Cynorthwydd Prif Swyddog Cyllid. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn agos gyda'r tim rhoeli a thim clinigol Gofal Eilaidd, i sicrhau bod ein gwasanaethau yn sicrhau gwerth am arian.

Mae'n rhaid i ddeilydd y swydd fod yn gyfrifwr CCAB cymwys ac yn gallu dangos brofiad perthnasol ac arwyddocaol.

Mae’r rôl yn gofyn am unigolyn brwdfrydig, ymroddedig a llawn cymhelliant gyda sgiliau dadansoddi, cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf.

Dyma cyfle gwych unigolyn sydd yn awyddus i ddatblygu ei gyrfa yn y maes Cyllid a datblygu profiad a dealltwriaeth o reoli adnoddau GIG Cymru.

Os ydych yn teimlo bod gennych y sgiliau a'r brwdfrydedd i ymuno gyda'r tim, cysylltwch gyda ni.  

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol. Mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r swydd hon yn ymdrin â Chyllideb Rheoli Dirprwyedig penodol (Ardal, Ysbyty neu Uwch Adran gyda chyfanswm cyllideb gyfun o o leiaf £100 miliwn).  Felly mae'r rôl hon yn gofyn am gyfrifydd cymwysedig gyda phrofiad ôl-gymhwyso sylweddol er mwyn cyflawni'r rôl hon.

 Prif ffocws y rôl hon yw sicrhau cynaladwyedd ariannol yr Uwch Adran berthnasol gan gefnogi a gyrru gwaith dynodi CIP a mentrau arbedion rhyddhau arian parod, eu rheoli a'u cyflawni.

 Mae deilydd y swydd yn uwch weithiwr cyllid proffesiynol ym Mwrdd Iechyd PBC ac mae disgwyl iddo gyfrannu'n sylweddol at strategaeth cynaladwyedd, rheoli ariannol a chyllideb yr Uwch Adran berthnasol.

 Cyfrifoldeb arweiniol dros reoli a rhoi cymorth, cyngor a gwybodaeth ariannol proffesiynol i'r Uwch Adran / Adran Weithredol berthnasol er mwyn eu galluogi i reoli eu cyllidebau a'u harian unigol yn effeithiol ac yn rhagweithiol er mwyn sicrhau bod targedau ariannol yn cael eu cyflawni a bod dyletswyddau ariannol statudol y Bwrdd Iechyd yn cael eu cyflawni.

Sicrhau bod gweithgareddau a systemau ariannol yr Uwch Adran yn unol â dulliau corfforaethol, polisïau a gweithdrefnau a'u bod yn cyrraedd y safonau uchaf o ran stiwardiaeth a chywirdeb er mwyn cydymffurfio â gofynion llywodraethu corfforaethol.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Rheoli'r gwaith o roi cyngor, cymorth a gwybodaeth ariannol proffesiynol o ran gweithgareddau'r Uwch Adran, yn unol â strategaeth y Bwrdd Iechyd. Datblygu rhagamcaniadau ariannol manwl, arfarniadau o opsiynau a blaengynlluniau i ganiatáu rhagweld materion posibl a'u datrys, er mwyn cyflawni targedau ariannol yr Uwch Adran a dyletswyddau ariannol statudol y Bwrdd Iechyd.

 ·       Cyfleu a dehongli gwybodaeth ariannol a heb fod yn ariannol soffistigedig, technegol ac sy'n gallu bod yn ddadleuol yn aml mewn ffordd hawdd ei deall gyda Chyfarwyddwyr yr Uwch Adran a'r Tîm Uwch Reoli, Rheolwr Clinigol a Chyfarwyddwyr, Rheolwyr Uwch Adrannau a rheolwyr eraill o ran rhagdybiaethau gydag adnoddau, defnyddio adnoddau'n effeithlon a chyfleoedd i leihau costau, trwy broses trafod, dylanwadu a darbwyllo.

 ·       Datblygu a gweithredu rhaglen o gynlluniau Lleihau Costau er mwyn sicrhau bod targedau ariannol Uwch Adrannol a Chorfforaethol yn cael eu cyflawni, gan gyfrannu'n effeithiol at gynllunio a gweithredu Cynllun Gweithredol y Bwrdd Iechyd.

 ·       Datblygu a monitro'n fanwl perfformiad cyllideb yr holl uwch adrannau ac adrannau ar draws yr Uwch Adran / Ardal berthnasol.

·       Paratoi a chyflwyno adroddiadau perfformiad misol i Dîm Rheoli'r Uwch Adran / Ardal, Cyfarwyddwyr Clinigol a'r Cyfarwyddwr Cyllid, gan nodi risgiau, pwysau a chyfleoedd allweddol, yn ogystal â rhagamcaniadau ariannol a chamau sydd eu hangen i sicrhau bod hyfywdra ariannol yn cael ei gynnal.

 ·       Rhoi cyngor ar gynlluniau adennill costau a chyllideb o ran yr Uwch Adran / Ardal gan sicrhau bod gwybodaeth a chyngor yn cael eu rhoi er mwyn caniatáu i wasanaethau gael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol, gan hwyluso cymhwyso adnoddau ariannol yn y ffordd orau posibl i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel.

 ·       Cefnogi deiliaid dirprwyedig cyllidebau yn yr Uwch Adran / Ardal trwy roi hyfforddiant ariannol mewn ffordd sy’n hawdd ei deall gan weithwyr proffesiynol nad ydynt yn ymwneud â chyllid, er mwyn gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ariannol.

 ·       Paratoi adroddiadau rheolaidd ar sefyllfa a pherfformiad ariannol ar hyn o bryd a'r un a ragwelir yn y dyfodol o ran yr Uwch Adran / Ardal yn cynnwys:

 a)    Rhanddeiliaid Allanol (Ffurflenni Monitro LlCC)

 b)    Aelodau annibynnol y Bwrdd Iechyd

 c)    Bwrdd y Cyfarwyddwyr a'r Tîm Rheoli Gweithredol

 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Aelod cymwysedig o sefydliad CCAB
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster uwch o ran ECDL

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o bod mewn uwch swydd cyllid mewn sefydliad mawr
  • Ystod eang o brofiad yn y swyddogaeth gyllid, yn enwedig ym meysydd Cyfrifyddu Rheoli, Cynaladwyedd ac adrodd
  • Gwybodaeth fanwl am weithdrefnau ariannol a chyfrifyddu ac agweddau ariannol ar Ddeddfwriaeth a pholisi'r GIG
  • Profiad helaeth o drin data, ymchwilio a'i ddadansoddi.
  • Hanes o ddelio â sefyllfaoedd hynod gymhleth a chyflawni amcanion Corfforaethol heriol
  • Profiad o weithio mewn sefydliad hynod gymhleth a sensitif
  • Profiad o ddylanwadu'n llwyddiannus ar uwch glinigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill a gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol.
  • Profiad o Reoli Staff
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio yn y GIG ar lefel uwch
  • Profiad o baratoi Achosion meysydd Cyfrifyddu Rheoli, Busnes, cynnal adolygiadau gwasanaeth a meincnodi mewn sefydliad darparwr mawr.

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu dadansoddi a chyfleu gwybodaeth hynod gymhleth yn effeithiol ar bob lefel yn y sefydliad ac a chyrff allanol
  • Sgiliau ardderchog ac uwch o ran sgiliau dadansoddi, dehongli cymharu gyda'r gallu i ddelio a gwybodaeth gymhleth a sensitif
  • Yn gallu cyfathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig, trwy gyflwyno rhifau ac ystadegau, ac ar lafar
  • Sgiliau a gwybodaeth TG ardderchog, gan gynnwys sgiliau uwch o ran dylunio taenlenni a chronfeydd data
  • Dangos y gallu i weithio ar dasgau cymhleth lluosog ar yr un pryd a gwneud gwaith o ansawdd uchel yn unol â therfynau amser tynn ac o fewn adnoddau cyfyngedig
  • Gallu i arwain staff a'u datblygu
Meini prawf dymunol
  • Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol yn effeithiol yn Cymraeg a Saesneg
  • Agwedd hyblyg tuag at y gwasanaeth
  • Sgiliau rheoli prosiect, amlwg gan gynnwys cynllunio, trefnu a blaenoriaethau gwaith

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol am systemau rheoli ariannol a offer dadansoddi perfformiad
  • Gwybodaeth fanwl am ystof eang o feysydd yn y swyddogaeth gyllid
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol am bolisïau a gweithdrefnau cyfrifyddu a llywodraethu.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth am Systemay Costau Ariannol
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth am system a fframwaith PBr

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Yn broffesiynol a lefel uwch o ymwybyddiaeth bersonol a proffesiynol
  • Yn barod i dderbyn syniadau ac ymagweddau gwaith newydd.
  • Yn gallu creu perthnasau gwaith effeithiol ar draws timau amlddisgyblaethol a chyfleu gwybodaeth ariannol i staff nad ydynt yn ymwneud â chyllid
Meini prawf dymunol
  • Ymrwymiad i ddiwylliant o gwelliant ac effeithiolrwydd proffesiynol parhaus

Gofynion Perthnasol Arall

Meini prawf hanfodol
  • Gallu teithio rhwng safleoedd yn brydlon

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
ADRIAN BUTLIN
Teitl y swydd
Chief Finance Officer - YG
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 851174
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Jemma Orlik

Prif Swyddog Cyllid - West Area

03000 851151

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg