Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymwelydd Iechyd Arbenigol Bwydo Babanod
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Ymwelydd Iechyd Arbenigol Bwydo Babanod deinamig, profiadol, brwdfrydig ac arloesol (Band 7) i gefnogi Bwydo Babanod ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ardal HGI Ganolog Conwy a Sir Ddinbych.
Ail-achredwyd Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd BIPBC ym mis Mawrth 2024 gan UNICEF UK fel Lefel 3 Cyfeillgar i Fabanod (Baby Friendly). Canmolwyd y gwasanaeth am ddarparu gofal o safon uchel i fenywod beichiog a mamau newydd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel yr arbenigwr bwydo babanod, byddwch yn gyfrifol am hyrwyddo perthnasoedd gwaith effeithiol trwy gysylltu â chydweithwyr, meddygon teulu, gweithwyr proffesiynol eraill, ac asiantaethau statudol a gwirfoddol, trefnu a darparu hyfforddiant i Dimau Cymysgedd Sgiliau Ymwelwyr Iechyd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adnodd ar gyfer ymarferwyr ac yn eu cefnogi pan fyddant yn gweithio gydag achosion Bwydo Babanod cymhleth. Byddwch yn gyfathrebwr rhagorol sy'n hyrwyddo perthnasoedd gwaith effeithiol gyda'r holl weithwyr proffesiynol ac asiantaethau gofal iechyd.
Byddwch yn trefnu ac yn cyflwyno hyfforddiant Cyfeillgar i Fabanod (Baby Friendly) UNICEF ac asesu sgiliau bwydo ar y fron staff Ymwelwyr Iechyd ar y cyd â'r tîm rheoli.
Byddwch yn gyfrifol am arwain y rhaglen archwilio ar gyfer y gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd i sicrhau bod achrediad Cyfeillgar i Fabanod (Baby Friendly) Lefel 3 yn cael ei gynnal. Byddwch yn sicrhau bod gan y gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd arferion gwaith cadarn ar waith a fydd yn cyflawni canlyniadau ar lefel strategol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a / neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs / Bydwraig Gofrestredig / Nyrs Arbenigol Iechyd Cyhoeddus Cymunedol (Ymwelwyr Iechyd)
- Cwblhau BFI UNICEF Bwydo ar y Fron ac Adeilau Perthnasau (Ymwelwyr Iechyd) neu gyfatebol
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth cyfredol y llwyodraeth sy'n berthnasol i'r agenda gordewdra a maeth y blynyddoedd cynnar
- Gwybodaeth am Safonau BFI a hyfforddwr "hyfforddi'r hyfforddwr" BFI
- Gwynbodaeth am weithdrefnau diogelu
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysg neu brofiad
- Cymhwyster cynghorwr bwydo ar y fron neu gyfatebol
Experience
Meini prawf hanfodol
- Ymarferydd medrus sy'n cofleidio llywodreathu clinigol ac effeithiolrwydd clinigol
- Profiad mewn archwilio
- Profiad o ddarparu cefnogath bwydo ar y fron
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddechrau mentrau / eu rhoi ar waith i ddatblygu arfer
Cymhwyster a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog - ar lafar ac ar bapur
- Sgiliau TG
- Gallu datblygu rhaglenni gofal arbenigol a darparu cyngor arbenigol
- Sgiliau goruchwylio clinigol
- Gallu gweithio dan bwysau
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
- Sgiliau rheoli pobl
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Rhinweddau amlwg ychwanegol a all fod yn fuddiol i'r rol, e.e. gofal, trugaredd, gallu, cyfathrebu, dewrder ac ymrwymiad
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sharon Gammon
- Teitl y swydd
- Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07825 244704
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector