Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
CAMHS
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-PST184-1224
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru
Tref
Abergele
Cyflog
£46,840 - £53,602 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
30/12/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Therapydd Seicolegol – CAMHS Haen 4

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Therapydd Seicolegol medrus a thosturiol i ymuno â'n tîm CAMHS Haen 4 yng ngwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru, yn Abergele. Mae'r rôl hon yn hanfodol i gefnogi'r gwaith o ddarparu ymyriadau therapiwtig wedi'u targedu i bobl ifanc sy'n profi amrywiaeth o anawsterau seicolegol a phroblemau iechyd meddwl.

 Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â’r profiad a’r cymwysterau addas i ddarparu therapïau fel CBT a DBT, yn enwedig i bobl ifanc, â’r sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i ddangos empathi ac i gefnogi pobl ifanc trwy eu heriau.

Rydym yn chwilio am therapydd sydd ag achrediad ffurfiol (e.e. gyda’r BABCP neu’r SfDBT).  Rydym hefyd yn hapus i ystyried ymgeiswyr sy'n gweithio tuag at achrediad o’r fath ar hyn o bryd.  Gellir cyflogi ymgeiswyr felly i swydd ddatblygu a rhoi amser penodol iddynt gwblhau eu hachrediad.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Fel Therapydd Seicolegol o fewn ein tîm, byddwch yn allweddol wrth ddarparu therapïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i bobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau haen 4. Eich prif ffocws fydd gweithio gyda phobl ifanc, asesu eu hanghenion, creu cynlluniau triniaeth, a darparu ymyriadau a chymorth therapiwtig uniongyrchol i'r tîm amlddisgyblaethol ehangach, gan ddefnyddio eich sgiliau therapiwtig penodol.

Byddwch yn cydweithio'n agos ag aelodau eraill o'r tîm o fewn fframwaith CAMHS Haen 4, gan gyfrannu at gynllunio a darparu gofal cyffredinol. Byddwch yn chwarae rhan hanfodol mewn arwain a hyfforddi staff iau, gan eu helpu nhw i ddatblygu eu sgiliau i gyflwyno ymyriadau seicolegol. Bydd eich cyfraniad yn sicrhau bod ein tîm yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y technegau therapiwtig diweddaraf.

Os ydych yn frwd dros wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc ac yn bodloni'r meini prawf uchod, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rob Clarke – Rheolwr Dros Dro Gwasanaeth Clinigol NWAS - [email protected]

Ffôn: 03000 850056

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymhwyster

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster ac achrediad Therapi Seicolegol (e.e. Diploma/Gradd Meistr mewn CBT, DBT, EMDR, ac achrediad BABCP) NEU Gyfatebol: e.e. Doethuriaeth Ôl-raddedig mewn Seicoleg Glinigol (neu gymhwyster cyfatebol i'r rhai a gwblhaodd eu hyfforddiant cyn 1996) a achredir gan Gymdeithas Seicoleg Prydain neu gymhwyster lefel doethuriaeth mewn Seicoleg Cwnsela lle'r oedd yr ymgeisydd yn llwyddiannus mewn CBT fel un o'r dulliau therapi. Yn ogystal â chofrestriad HCPC.
  • Hyfforddiant proffesiynol gofal iechyd priodol ar gyfer llywodraethu. Gall fod yn nyrsio, gwaith cymdeithasol, therapi galwedigaethol, therapi celfyddydol neu seicoleg.
  • Profiad sylweddol o ddarparu therapi ac ymyriadau seicolegol i bobl ifanc.
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant ychwanegol perthnasol mewn therapïau seicolegol sy’n berthnasol ar gyfer trin anawsterau seicolegol cymedrol i ddifrifol a chyflyrau iechyd meddwl o fewn lleoliad CAMHS Haen 4 megis PTSD, gorbryder, ac iselder (e.e. EMDR, Therapi sy’n Canolbwyntio ar Dosturi, Therapi Gwybyddol ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar, Therapi Derbyn ac Ymrwymiad, Therapi Byr sy'n Canolbwyntio ar Atebion, MBT).
  • Hyfforddiant dan oruchwyliaeth.
  • Gwybodaeth ôl-raddedig o ddulliau ymchwil a gwerthuso.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad amlwg o weithio mewn gwasanaethau iechyd corfforol neu feddyliol gan weithio gyda phobl ag anawsterau seicolegol a phroblemau iechyd meddwl
  • Gwybodaeth ragorol a chefndir mewn gweithio gyda phobl ifanc mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol.
  • Y gallu i gyrraedd targedau gwasanaeth y cytunwyd arnynt/penodedig
  • Y gallu i reoli ei lwyth achosion a'i amser ei hun
  • Arddangos safonau uchel wrth gyfathrebu yn ysgrifenedig.
  • Y gallu ysgrifennu adroddiadau a llythyrau clir.
  • Profiad o fonitro canlyniadau yn rheolaidd
  • Profiad o addysgu a darparu cymorth a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol a theuluoedd.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio fel therapydd seicolegol gyda phobl ifanc neu oedolion sydd wedi trosglwyddo i wasanaethau oedolion yn ddiweddar
  • Profiad o addysgu, hyfforddi a/neu oruchwylio.
  • Profiad o gymhwyso seicoleg glinigol neu therapi clinigol mewn cyd-destunau diwylliannol gwahanol. Profiad o wahanol ddiwylliannau'r byd.

Sgiliau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau TG da
  • Sgiliau datblygedig wrth gyfleu gwybodaeth gymhleth iawn, hynod dechnegol a chlinigol sensitif yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, i gleientiaid, eu teuluoedd, gofalwyr a chydweithwyr proffesiynol eraill o fewn y GIG a'r tu allan iddo
  • Wedi derbyn hyfforddiant ac wedi cynnal asesiadau risg o fewn cwmpas ymarfer.
  • Y gallu i ddatblygu cydberthnasau therapiwtig da gyda chleientiaid.
  • Y gallu i gydweithio ag ystod eang o gydweithwyr amlddisgyblaethol.
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn dangos dealltwriaeth o anawsterau seicolegol a chyflyrau iechyd meddwl a sut mae cleientiaid yn cyflwyno o fewn CAMHS Haen 4.
  • Yn dangos gwybodaeth am y materion sy'n effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc a'u hadferiad.
  • Gwybodaeth am feddyginiaeth a ddefnyddir i reoli problemau iechyd meddwl cyffredin
  • Yn dangos dealltwriaeth o'r angen i ddefnyddio therapïau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a sut maent yn berthnasol i'r swydd hon.
  • Gwybodaeth ymarferol am ddiogelu plant a gweithdrefnau diogelu.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am sut y gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACES) effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol pan yn oedolion
  • Gwybodaeth am theori ac ymarfer therapïau seicolegol arbenigol mewn grwpiau penodol anodd eu trin (e.e. anhwylder personoliaeth, diagnosisau deuol, pobl ag anableddau ychwanegol).

Hyfforddiant

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i fynychu hyfforddiant goruchwylio os nad yw deiliad y swydd eisoes wedi cwblhau hyfforddiant, yn ogystal â hyfforddiant therapi seicolegol arall wrth i'r swydd ddatblygu
  • Cofnod da o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus a pharodrwydd i barhau â hyn

Gofynion Eraill

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i arddangos amrywiaeth o rinweddau sy'n hanfodol i'r rôl, e.e. trugaredd, cymhwysedd, cyfathrebu, dewrder ac ymrwymiad).
  • Y gallu i weithio yn unol â'r gwerthoedd sefydliadol craidd.
  • Ymrwymiad i gynnal cyfrinachedd deunyddiau a gwybodaeth glinigol sensitif a thrafod gwybodaeth bersonol mewn ffordd sensitif, gyda disgresiwn.
  • Y gallu i arddangos ymddygiad proffesiynol o'r safon uchaf. Y gallu i ddefnyddio goruchwyliaeth glinigol a datblygiad personol mewn modd cadarnhaol ac effeithiol
  • Y gallu i weithio dan bwysau
  • Y gallu i fod yn hunanfyfyriol, wrth weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau, mewn perthynas â datblygiad proffesiynol a phersonol ac mewn sesiynau goruchwylio

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Robert Clarke
Teitl y swydd
Interim Clinical Service Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 850056
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg