Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Anesthetig ODP
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AHP162-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Abergele
- Tref
- Abergele
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Ymarferydd Adran Llawdriniaeth
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Ymarferydd Anesthetig yr Adran Lawdriniaethau (ODP) Band 5 yn Ysbyty Abergele – Theatrau Offthalmig
A ydych awydd ymgymryd â rôl heriol a gwobrwyol? A ydych awydd ymgymryd â swydd lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath?
Mae angen ODP (Anestheteg) cofrestredig a chymwys hynod frwdfrydig ac addas arnom ar gyfer Theatrau Offthamlig yn Ysbyty Abergele.
Mae Ysbyty Abergele yn ysbyty cymunedol prysur sydd wedi’i leoli yn sir brydferth Conwy, gyda mynediad uniongyrchol at y brif ffordd i mewn ac allan o Ogledd Cymru (A55) sy'n darparu cysylltiadau ardderchog â Pharc Cenedlaethol Eryri a Phen Llŷn.
Mae gan uned lawfeddygol Dydd Abergele ddwy theatr llygaid arbenigol sy’n perfformio ystod eang o lawdriniaethau o dan anesthetig lleol ac anesthetig cyffredinol.
Bydd angen i chi ganolbwyntio ar gleifion, bod yn ddibynadwy, yn drefnus, yn awyddus i ddysgu ac yn aelod da o'r tîm sy'n cynnig cymorth anaesthetig medrus ar gyfer anesthetig cyffredinol a blociau lleol.
Mae pob ymarferydd yn cael ei annog i gymryd rhan mewn hyfforddiant a datblygiad myfyrwyr a hefyd i weithio ar eu datblygiad personol eu hunain.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae deilydd y swydd yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal cleifion sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Defnyddir arbenigedd clinigol yn ystod pob cam o'r cyfnod amdriniaethol. Darperir cymorth medrus yng ngofal anesthetig, llawfeddygol ac ôl-lawdriniaeth y claf.
Dyddiau gwaith y swydd yw dydd Llun i ddydd Gwener am 4 neu 5 diwrnod yr wythnos (i’w drafod yn y cyfweliad) a bydd disgwyl i’r deilydd gymryd rhan yn y rota ar-alwad ar gyfer argyfyngau Offthalmig. Mae ymgymryd â dyletswyddau yn Theatrau Orthopedig Glan Clwyd ac Abergele hefyd yn ofynnol ar gais y rheolwr llinell.
Bydd deilydd y swydd yn cydweithio yn gydweithredol gydag aelodau eraill o’r tîm amlddisgyblaethol, gan fodloni anghenion y claf heb unrhyw oruchwyliaeth uniongyrchol. Bydd yn cynorthwyo i reoli a threfnu ardaloedd clinigol ac ategol, gan weithredu gwelliannau i arferion gwaith fel y nodwyd gan dreialon archwilio/clinigol. Bydd yn cymryd rhan mewn addysg a datblygiad aelodau eraill o staff.
Bydd deilydd y swydd yn cael y cyfle, ac yn cael ei annog a’i gefnogi, i ddefnyddio ei sgiliau clinigol yn ystod camau gofal anesthetig, llawfeddygol ac ôl-anesthetig y cyfnod amdriniaethol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deilydd y swydd yn darparu cymorth anesthetig medrus i gleifion Offthalmig sy'n cael triniaethau, Anesthetig cyffredinol a blociau offthalmig.
Mae'r gwaith yn cynnwys paratoi amgylchedd y theatr, offer, rheoli stoc a chyffuriau, gwirio a chwblhau dogfennaeth yn gywir, monitro cleifion a chefnogi'r tîm amlddisgyblaethol i ddarparu gofal diogel i gleifion.
Bydd deilydd y swydd yn gyfarwydd â pholisïau a gwerthoedd Ymddiriedolaeth BIPBC ac yn cadw atynt.
Nid yw'r disgrifiad swydd hwn yn hollgynhwysol, efallai y bydd angen i staff ymgymryd â dyletswyddau sy'n gymesur â'r band yn Theatrau Abergele a Glan Clwyd, ar gais y rheolwr llinell
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau/Profiad
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad HCPC
- Profiad blaenorol o weithio mewn Theatrau sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o arbenigeddau llawfeddygol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyterau addysgu / mentora
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu I ymddangos a thystiolaethu, ofal cleifion o ansawdd uchel
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Julie Drane
- Teitl y swydd
- Anaesthetic team leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000845577
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector