Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyfathrebu
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-AC014-0524
Cyflogwr
Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaeth Gwaed Cymru
Tref
Pontyclun
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan logo

Swyddog Cyfathrebu

Gradd 5

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Wasanaeth Gwaed Cymru (GGC) sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae GGC yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriediolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

BYDD Atebol
BYDD Feiddgar
BYDD Ofalgar
BYDD Ddeinamig
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae GGC yn hynod falch o'r rôl hanfodol mae'n ei chwarae ym maes gofal iechyd modern trwy geisio achub a thrawsnewid bywydau drwy haelioni rhoddwyr. Mae GGC yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae ein staff gofalgar ac ysgogol yn dylunio, datblygu a chyflwyno gwelliannau trwy gyfrwng menter Cadwyn Gyflenwi 2020 (BSC2020), a fydd yn galluogi GGC i weithio tuag at ei weledigaeth o weithio gyda'n staff a phobl Cymru i gyflwyno gwasanaeth rhoi gwaed a bôn-gelloedd hawdd ei ddefnyddio, diogel a chynaliadwy.

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC) wedi ymrwymo i ymgysylltu â'i roddwyr, rhanddeiliaid, lleoliadau a'r cyhoedd ym mhopeth mae'n ei wneud. 

Mae'r Gwasanaeth yn ymwneud yn uniongyrchol â dros 120,000 o roddwyr gwaed ar draws Cymru drwy amrywiaeth o sianeli cyfathrebu, gan gynnwys llythyrau, negeseuon SMS, gwefan GGC, cyfryngau traddodiadol a chyfryngau cymdeithasol. Mae'r Gwasanaeth yn ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd sydd ddim eto'n rhoddwyr hefyd.

Mae'r Swyddog Cyfathrebu yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddarparu'r rhaglen ymgysylltu ar draws ardal ddaearyddol Gwasanaeth Gwaed Cymru. 

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi datblygu cynlluniau cyfathrebu sy'n galluogi'r Gwasanaeth i gadw'r rhoddwyr gwaed presennol a recriwtio rhoddwyr newydd.

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Rheolwr Ymgysylltu a Chyfathrebu â Rhoddwyr gydag ymholiadau'r cyfryngau, ac yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad gan y cyfryngau.

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi creu a gweithredu holl ymgyrchoedd a digwyddiadau hyrwyddo GGC, i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ac annog pobl i roi gwaed, platennau a bôn-gelloedd.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio ar draws ardal ddaearyddol Gwasanaeth Gwaed Cymru, a gweithio y tu allan i oriau busnes arferol yn ôl y galw. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

O dan gyfarwyddyd y Rheolwr Ymgysylltu a Chyfathrebu â Rhoddwyr, mae'r Swyddog
Cyfathrebu yn gyfrifol am gynllunio, creu a chyhoeddi cynnwys cyfathrebu deniadol drwy ystod
eang o sianeli cyfathrebu.
Bydd y Swyddog Cyfathrebu yn defnyddio print, gwasanaethau ar-lein, darllediadau a’r
cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo sesiynau rhoi gwaed ar draws Cymru, ac yn arwain y
gwaith o greu cynnwys cyfathrebu cymhellol, gan gynnwys datganiadau newyddion,
astudiaethau achos, straeon ar y we, cynnwys fideos, graffeg cyfryngau cymdeithasol a
deunyddiau eraill sy’n wynebu rhoddwyr.
Bydd y Swyddog Cyfathrebu yn feddyliwr strategol gyda phrofiad cryf o greu a darparu
gweithgarwch cyfathrebu, a bydd yn fedrus mewn nodi cynulleidfa darged a datblygu deunydd
cyfathrebu y gellir ei ddarparu drwy sianeli priodol.
Bydd gan y Swyddog Cyfathrebu sgiliau creu cynnwys cryf, i sicrhau bod modd ail-bwrpasu'r
holl gynnwys ar gyfer yr effaith fwyaf posibl ar draws sianeli, ar gyfer cynulleidfaoedd allanol
a mewnol.
Bydd y Swyddog Cyfathrebu'n datblygu a gwella darpariaeth ddigidol Gwasanaeth Gwaed
Cymru (y wefan, y fewnrwyd a sianeli cyfryngau cymdeithasol), a bydd yn gwella presenoldeb
y Gwasanaeth mewn cyfryngau prif ffrwd a darpariaethau newyddion cymunedol lleol

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar draws Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym yn ffodus hefyd, i letya Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Technoleg Iechyd Cymru, ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn. 

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth ym 1999, ac mae ganddi weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi, ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych chi eisiau gweithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ydy'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael gwybod mwy  https://velindre.nhs.wales/

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd-Ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person wedi eu hatodi yn y dogfennau ategol, neu cliciwch ar "Apply now " i'w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel gradd neu brofiad cyfatebol mewn maes perthnasol.
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf dymunol
  • CIPR, CIM neu aelodaeth gyfatebol.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Digon o brofiad mewn rôl gyfathrebu neu farchnata.
  • Profiad o weithio gyda'r cyfryngau i hybu enw da sefydliad.
  • Profiad o gynhyrchu cynnwys cyfathrebu mewn amrywiaeth o fformatau (datganiadau i'r wasg, fideos, erthyglau, astudiaethau achos ac ati)
  • Profiad o ymgysylltu a chyfathrebu â gwahanol gymunedau.
  • Profiad o gynnal cymuned cyfryngau cymdeithasol corfforaethol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddylunio a chyflwyno rhaglenni hyfforddi staff.

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i reoli nifer o randdeiliaid, a chael y gallu i ddylanwadu a pherswadio'n effeithiol.
  • Yn gallu delio’n dda â sefyllfaoedd argyfwng a/neu amgylchiadau emosiynol.
  • Hyderus wrth nodi a chysylltu ag unigolion mewnol ac allanol i sefydlu perthnasoedd gwaith newydd.
  • Hyder i siarad yn gyhoeddus, gan gynnwys ar y teledu a'r radio.
  • Llygad da am fanylion, er enghraifft sicrhau bod brandio'n cael ei ddefnyddio'n briodol ar draws llwyfannau a'r sefydliad.
  • Datryswr problemau naturiol, gyda'r gallu i addasu'n gyflym i newidiadau sydyn.
  • Dycnwch, ac yn dangos penderfyniad, brwdfrydedd a stamina i gyflawni nodau a chyflawni pethau.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac ar draws ardal ddaearyddol eang mewn modd amserol.
  • Agwedd hyblyg at waith.
  • Hunanysgogol, ac yn gallu gweithio'n annibynnol.
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • Hyblygrwydd i weithio y tu allan i oriau arferol.

Doniau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Y gallu i greu cynlluniau cyfathrebu ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu amrywiol gyda'r adnoddau sydd ar gael.
  • Y gallu i greu cynnwys diddorol i annog rhyngweithio cadarnhaol gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd targed yng Nghymru
  • Dealltwriaeth dda o sianeli cyfryngau cymdeithasol a phrofiad o ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol mewn capasiti proffesiynol.
  • Sgiliau cyflwyno a hwyluso cryf.
  • Yn drefnus ac yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith fel y bo'n briodol wrth weithio ar nifer o brosiectau.
  • Y gallu i ymdrin â materion sensitif mewn modd cadarnhaol a diplomyddol.
  • Y gallu i olygu cynnwys fideo i'w ddefnyddio ar lwyfannau digidol.
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Simon Campbell-Davies
Teitl y swydd
Interim Donor Engagement & Communications Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07814 688051
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg