Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Casglu Gwaed
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Nifer yr oriau sydd yn cael eu gweithio yn gyffredinol dros 4 diwrnod yr wythnos)
Cyfeirnod y swydd
120-NMR010-0524
Cyflogwr
Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaeth Gwaed Cymru
Tref
Pontyclun
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan logo

Nyrs Gofrestredig Clinig

Gradd 5

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Wasanaeth Gwaed Cymru (GGC) sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae GGC yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriediolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

BYDD Atebol
BYDD Feiddgar
BYDD Ofalgar
BYDD Ddeinamig
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae GGC yn hynod falch o'r rôl hanfodol mae'n ei chwarae ym maes gofal iechyd modern trwy geisio achub a thrawsnewid bywydau drwy haelioni rhoddwyr. Mae GGC yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae ein staff gofalgar ac ysgogol yn dylunio, datblygu a chyflwyno gwelliannau trwy gyfrwng menter Cadwyn Gyflenwi 2020 (BSC2020), a fydd yn galluogi GGC i weithio tuag at ei weledigaeth o weithio gyda'n staff a phobl Cymru i gyflwyno gwasanaeth rhoi gwaed a bôn-gelloedd hawdd ei ddefnyddio, diogel a chynaliadwy.

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi'n nyrs gofrestredig brwdfrydig, tosturiol, blaengar, deinamig ac ymroddedig, sy’n chwilio am her newydd yn eich gyrfa o fewn sefydliad blaengar, sy'n canolbwyntio ar staff?  

Ydych chi'n angerddol ac wedi ymrwymo i ddarparu gofal o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwella gwasanaethau parhaus?  Os felly, mae gennym ddewis gyrfa i chi.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Nyrs Gofrestredig band 5 yn ein tîm casglu gwaed hanfodol, wedi'u lleoli yn Dafen Llanelli o fewn Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae rôl nyrsio o fewn y gwasanaethau casglu yn rhoi datblygiad i staff o amrywiaeth o sgiliau clinigol a thechnegau casglu gan gynnwys casglu gwaed cyflawn.

Gan weithio fel rhan o dîm deinamig, mae rôl y Nyrs Casglu Gwaed yn rôl glinigol sy'n gyfrifol am gefnogi'r Nyrsys Cofrestredig Clinig Uwch a'r tîm casglu gwaed ehangach wrth ddarparu gofal unigol o ansawdd uchel i'n rhoddwyr sy’n achub bywydau.  Fel Nyrs casglu gwaed bydd disgwyl i chi ddarparu arweinyddiaeth glinigol effeithiol a thosturiol er mwyn sicrhau gofal gorau posibl o roddwyr.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu ein staff a byddai ymgeiswyr llwyddiannus yn gwneud cynnydd trwy rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar sail ychwanegol i sicrhau eu bod wedi'u paratoi'n ddigonol gyda'r wybodaeth a’r sgiliau arbenigol angenrheidiol i ymgymryd â'r rôl glinigol allweddol hon. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cefnogi'r Uwch Nyrs Clinig i sicrhau bod modd casglu'r gwaed mewn clinigau rhoddwyr yn ddiogel ac effeithiol.

Cefnogi'r Uwch Nyrs Clinig ym mhob agwedd ar nyrsio a gofal clinigol rhoddwyr, gan sicrhau amgylchedd diogel i bawb wrth weithio yn y clinig. Cael eich cydnabod fel ffynhonnell wybodaeth glinigol am gyngor a chyfeiriad i staff anghlinigol.

Bydd gofyn i'r holl staff symud yn hyblyg drwy wahanol dimau a chyfleusterau casglu gwaed fel cyfleusterau rhoi gwaed symudol, safleoedd statig a chlinigau cymunedol sy'n cwmpasu ardal ddaearyddol fawr.

Mae gofyniad y bydd deiliad y swydd yn cynnal teithiau wedi'u trefnu a fydd yn cynnwys arosiadau dros nos sawl gwaith y flwyddyn.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar draws Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym yn ffodus hefyd, i letya Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Technoleg Iechyd Cymru, ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn. 

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth ym 1999, ac mae ganddi weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi, ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych chi eisiau gweithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ydy'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael gwybod mwy https://felindre.gig.cymru/

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd-Ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person wedi eu hatodi yn y dogfennau ategol, neu cliciwch ar "Apply now " i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs gofrestredig gyda chofrestriad presennol gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Meini prawf dymunol
  • Tystysgrif Cymorth Cyntaf.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio o fewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid. Profiad o weithio mewn tîm. Profiad o ymdrin â materion sensitif neu gyfrinachol a dealltwriaeth o sut mae hyn yn berthnasol i'r rôl.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gyda phobl ar bob lefel.

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu, ysgrifenedig a rhifedd da. Hyderus wrth ddefnyddio offer awtomataidd Gallu gweithio'n drefnus ac yn fanwl gywir yn aml gyda gofynion sy'n cystadlu Dangos y gallu i hyrwyddo a meithrin cydberthnasau gwaith da o fewn tîm Sgiliau bysellfwrdd a TG safonol. Y gallu a'r deheurwydd i ymgymryd â thynnu gwaed.
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gallu asesu anghenion rhoddwyr a allai fod yn gymhleth ac yn amodol ar newid. Deall y rôl mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ei chwarae yn y gymuned ehangach. Dealltwriaeth o gyfrinachedd
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am weithio mewn amgylchedd gofal iechyd.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Phillipa Blackford
Teitl y swydd
Clinical Operations Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01443 622027
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Mark Jenkins

Rheolwr Gweithrediadau Clinigol

[email protected]

01443 622107

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg