Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Tîm Iechyd Meddwl Pobl Hŷn
Gradd
Gradd 6
Contract
Cyfnod Penodol: 2 flynedd (cwrdd gofynion y gwasanaeth)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener 09:00-17:00)
Cyfeirnod y swydd
070-NMR065-0524
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Hazels, Llandrindod
Tref
Llandrindod
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
20/05/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
30/05/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Nyrs Asesu’r Cof

Gradd 6

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Bydd hyn yn cynnwys asesu defnyddwyr gwasanaeth y mae lleoliad gofal sylfaenol wedi’u hatgyfeirio, gan ddefnyddio amrywiaeth o offerynnau asesu seiliedig ar dystiolaeth sy’n canolbwyntio ar ymyrraeth lefel gofal sylfaenol.

Cynhelir clinigau asesu mewn lleoliadau ac ar amseroedd amrywiol, felly mae’n hanfodol bod yn hyblyg, ar sail anghenion y gwasanaeth.

Wrth i’r gwasanaeth Asesu’r Cof ddatblygu, bydd disgwyl i ddeiliad y swydd sicrhau bod gwasanaethau seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu darparu fel rhan o fodel gwasanaeth integredig.

Bydd hefyd yn cefnogi’r Gyfarwyddiaeth Iechyd Meddwl i gyflawni amcanion lleol a strategol.

Derbyn, o fewn system un pwynt mynediad, atgyfeiriadau trwy feddygon teulu ar gyfer pobl â diagnosis posibl o dementia neu yr amheuir bod ganddyn nhw dementia.

Gwneud asesiad generig cynhwysfawr a diagnosis o dementia sy’n ddiwylliannol sensitif.

Cwnsela cyn ac ar ôl diagnosis, yn cynnwys datgelu canlyniad yr asesiad i’r person (a’r teulu os yn briodol), gan gynnwys rhannu’r diagnosis a’i oblygiadau posibl.

Cyfrannu at gynnal a datblygu safonau arfer clinigol yn barhaus o fewn y Gwasanaeth Asesu’r Cof, gan gymryd rhan mewn gwerthuso’r gwasanaeth.

Cyfeirio pobl at wasanaethau eraill a chyfrannu at lwybr di-dor i wasanaethau iechyd meddwl eilaidd (gan gynnwys y Tîm Trin Dementia yn y Cartref) lle bo’n edrych fel bod angen hyn.

Darparu gofal integredig mewn partneriaeth â sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol lleol eraill.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydyn ni eisiau penodi nyrs frwdfrydig, llawn cymhelliant gyda sgiliau cyfathrebu a chlinigol ardderchog i ymuno â’n Gwasanaeth Asesu’r Cof yn Sir Faesyfed. Mae’n rhaid ichi fod yn frwdfrydig, hunanysgogol, hyblyg eich ffordd o weithredu a gallu gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaeth. Byddwch chi’n meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, sail gwybodaeth glinigol gadarn ac ymrwymiad i ofalu am gleifion gan ddefnyddio athroniaeth Canolbwyntio ar y Person.  

Â’ch sail yn Llandrindod, byddwch chi’n rhan annatod o’r gwaith o roi Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia ar waith. Fel rhan o’r tîm, bydd gofyn ichi wneud asesiadau, cynllunio cefnogaeth, cyfeirio a chynghori eraill ar ofal a thriniaeth pobl sydd wedi’u hatgyfeirio i Wasanaeth y Cof. Hefyd, byddwch chi’n cymryd rhan mewn cyflwyno a monitro meddyginiaeth sy’n gwella’r cof.

Rydyn ni wedi ymrwymo i edrych ar ffyrdd arloesol o weithio i wella profiad y claf. Rydyn ni’n gwybod bod ein llwyddiant yn dibynnu ar ymrwymiad ein staff a’n nod ydy recriwtio a chadw’r staff gorau posibl.

Rydyn ni eisiau i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys fod yn lle braf a boddhaus i weithio. Rydyn ni o’r farn bod teimlo bod pobl yn eich gwerthfawrogi yn eich gwaith yn cael effaith bositif ar staff a chleifion fel ei gilydd, ac mae ein fframwaith gwerthoedd ac ymddygiad yn dwyn sylw at ein hymrwymiad i hyn. Ein nod ydy gwella profiad y claf a’r gofalwr, darparu gofal o ansawdd uchel a chyflawni safonau proffesiynol uchel.

 

Gweithio i'n sefydliad

Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am bodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys. Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac o Eryri yn y golgedd i’r Bannau yn y de, mae’n un o’r harddaf hefyd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn comisiynu, ac wedi ennill gwobrau am ddarparu, gofal mewn ysbytai, yn y gymuned, iechyd meddwl, a gwasanaethau anableddau dysgu, felly mae’n porffolio’n eang ac amrywiol. Rydym yn falch o gynnig gofal heb ei ail i’n cleifion ac ystod o yrfaoedd i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.

Oeddech chi’n gwybod – Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o fewn GIG Cymru. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â thîm y gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]

Mae Step into Health yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG â phobl o gymuned y Lluoedd Arfog.

 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 2 FLYNEDD  OHERWYDD CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Qualifications / Skills and Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Professional qualification in Mental Health Nursing RMN
  • Current registration with governing professional body
  • Knowledge and skills in the use of relevant rating scales associated with memory/ cognitive assessment and management
  • Knowledge and skills around multidisciplinary memory clinic interventions
  • Understanding of outcome measures
Meini prawf dymunol
  • Relevant qualifications in dementia specific work
  • Advanced keyboard skills
  • Knowledge of a range of community agency facilities
  • Knowledge and skills in specific therapeutic approaches relevant to this client group
  • Detailed knowledge of health legislation and current practice in respect of risk assessment and risk management

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Significant post registration mental health experience, including experience working with older people in a mental health setting
  • Experience of and commitment to multidisciplinary/multi-agency working
  • Able to demonstrate autonomous working and management of own caseload
  • Experience in maintaining systems to measure performance
  • Delivery of clinical training in relation to specialism
Meini prawf dymunol
  • Post registration experience in a community setting
  • Appropriate post qualification in older people’s mental health or community mental health
  • Experience of providing clinical supervision to junior staff / consultation for other professionals/ agencies
  • Experience of policy development and procedures

Aptitude and Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Ability to organise and respond effectively to complex information
  • Evidence of continuing professional development and commitment to lifelong learning
  • Good organisational skills, able to plan and prioritise own workload and activities, and to coordinate with other colleagues and agencies
  • Excellent communication skills and able to communicate sensitive and complex information, and to overcome barriers to communication
  • Ability to work under pressure
  • Computer literacy
  • Ability to reflect and critically appraise own performance
  • Excellent reporting writing and presentation skills adopting local process
  • Able to communicate effectively within a highly emotive environment
  • Self-awareness and emotional resilience when faced with difficult and demanding clinical situations
  • Ability to communicate effectively with multi agency colleagues at all levels including negotiation and conflict skills
  • Ability to build effective working relationships and networks
Meini prawf dymunol
  • Good analytical skills to review data
  • Ability to provide operational advice and guidance both within and across agencies

Values and other

Meini prawf hanfodol
  • Ability to travel in a timely manner
  • Flexible approach to the needs of the service, adaptable and innovative in approach to work
  • Ability to travel across the Health Board area

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Nicki Sayce
Teitl y swydd
Team Lead MAS North Powys
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01686 252189
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg