Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Seiciatrydd Ymgynghorol mewn Seiciatreg Henaint
Consultant
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Rheoli, arfarnu a rhoi goruchwyliaeth broffesiynol i staff meddygol iau, fel y cytunwyd rhwng cydweithwyr ymgynghorol a'r cyfarwyddwr meddygol ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau personél y Bwrdd Iechyd. Gall hyn gynnwys asesu cymwyseddau o dan y fframwaith Moderneiddio Gyrfaoedd Meddygol.
Sicrhau bod y staff meddygol iau sy'n gweithio gyda deiliad y swydd yn gweithredu o fewn paramedrau'r Fargen Newydd ac yn cydymffurfio â'r Gyfarwyddeb Amser Gweithio.
Ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol sy'n gysylltiedig â gofal cleifion.
Cofnodi gweithgaredd clinigol yn gywir ac yn gynhwysfawr a chyflwyno hyn yn brydlon i'r adran briodol.
Cymryd rhan mewn gweithgarwch cynllunio gwasanaeth a busnes ar gyfer yr ardal leol ac fel y bo’n briodol, ar gyfer yr holl wasanaeth iechyd meddwl.
Cymryd rhan mewn gwerthusiad blynyddol ar gyfer meddygon ymgynghorol.
Mynychu a chymryd rhan yn rhaglen academaidd y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys darlithoedd a seminarau fel rhan o'r rhaglen fewnol o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Cynnal cofrestriad proffesiynol gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, cymeradwyaeth Deddf Iechyd Meddwl 1983 Adran 12 (2), er mwyn gweithio o fewn fframwaith cyfreithiol Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a chadw at godau ymddygiad proffesiynol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn darparu mewnbwn meddygol i Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Pobl Hŷn. Mae deiliad y swydd wedi’i leoli yn uned Bryn Hesketh ym Mae Colwyn ar hyn o bryd, ac mae’r tîm pobl hŷn eilaidd wedi’i leoli yn Llys Dyfrig yn Llandudno, sef taith fer o Fae Colwyn. Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth asesu a thriniaeth i bobl dros 65 oed.
Mae’r Tîm Pobl Hŷn Eilaidd yn darparu gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd yn unol â’r Mesur Iechyd Meddwl. Mae meddygon ymgynghorol y tîm yn cynnig cefnogaeth ymgynghorol i'r gwasanaeth gofal sylfaenol. Caiff clinig cof ei ddarparu yng nghanolfan y tîm gyda mewnbwn amlddisgyblaethol. Caiff gofal ei gydlynu o fewn gofal eilaidd, gan weithio yn unol â Rhan dau o’r Mesur Iechyd Meddwl. Mae’r tîm hefyd yn darparu gwasanaethau dydd i bobl sy’n dioddef o ddementia a salwch meddwl.
Ar hyn o bryd, mae gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol sy’n gwasanaethu Dwyrain Conwy 128 o gleifion Rhan II (Mesur Iechyd Meddwl) a 67 o gleifion Rhan 1 (Mesur Iechyd Meddwl). Mae dementia ar wyth deg y cant o’r cleifion. Mae 680 o gleifion ar agor yn y Clinig Cof. Ar hyn o bryd, mae gan y meddyg ymgynghorol lwyth achosion, er bod y llwyth achosion wrthi'n cael ei adolygu, gyda’r bwriad o symud i wasanaeth lle nad oes disgwyl i feddygon ymgynghorol ysgwyddo llwyth achosion sylweddol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb bersonol ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ‘Gwneudd Cais Nawr’ i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- MB BS neu gymhwyster meddygol cyfatebol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster neu radd uwch mewn addysg feddygol, ymchwil clinigol neu reoli.
- MRCPsych neu MRCPsych cyfwerth a gydnabyddir gan y Goleg Brenhinol Seiciatryddion.
- Cymeradwyaeth AC Cymru.
Cymhwysedd
Meini prawf hanfodol
- Wedi cofrestru'n llawn â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, gyda thrwydded i ymarfer ar adeg y penodiad.
- Wedi'ch cynnwys ar Gofrestr Arbenigol y Cyngor Meddygol Cyffredinol neu o fewn 6 mis o gwblhau CCT.
- Statws clinigydd cymeradwy neu'n gallu ei gyflawni cyn pen 3 mis o gael eich penodi.
- Wedi'ch cymeradwyo o dan S12 neu'n gallu ei gyflawni cyn pen 3 mis o benodiad.
Meini prawf dymunol
- Statws da gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol o ran rhybuddion ac amodau ar arfer.
Clinical Skills
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o hyfforddiant mewn cymwyseddau craidd ac arbenigol ar gyfer seiciatreg cymuned.
Meini prawf dymunol
- Profiad o arwain tîm amlddisgyblaethol.
Addysgu a Hyfforddi
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o ddarparu addysgu ôl-raddedig.
- Tystiolaeth o ddarparu addysgu amlddisgyblaethol.
Meini prawf dymunol
- Profiad o addysgu myfyrwyr meddygol.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr. Faye Graver
- Teitl y swydd
- Deputy Medical Director
- Rhif ffôn
- 03000 856828
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector