Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsio Ysgolion
Gradd
GIG AfC: Band 5
Contract
1 flynedd (Mae'r swydd hon yn swydd cyfnod penodol/ secondiad tan 31/05/2025 oherwydd cyllid)
Oriau
  • Rhan-amser
  • Oriau tymor ysgol
30 awr yr wythnos (Yn ystod amser term yn unig)
Cyfeirnod y swydd
100-NMR119-0424-W-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Swyddfeydd R&A, Parc Busnes Strade
Tref
Llanelli
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/05/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
13/06/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Iechyd y Cyhoedd Cymunedol – Nyrsio Ysgolion

GIG AfC: Band 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae'r swydd hon yn swydd cyfnod penodol / secondiad tan 31/05/2025 oherwydd cyllid.

Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Mae Tîm Nyrsys Ysgol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am Nyrs Staff Gofrestredig Band 5 brofiadol i ymuno â'i dîm yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r swydd wag yn un am dymor penodol o flwyddyn yn unig, 30 awr yr wythnos, amser tymor yn unig.

Mae Nyrsys Ysgol yn ganolog i ystod o wasanaethau sy'n hyrwyddo agenda iechyd y cyhoedd ac yn cefnogi iechyd corfforol, emosiynol a chymdeithasol plant a phobl ifanc rhwng 5 a 18 oed.

Bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol ar yr ymgeisydd llwyddiannus, a bydd angen iddo allu dangos ei allu i weithio fel ymarferydd ymreolaethol ac mewn amgylchedd tîm, yn unol â chod ymddygiad proffesiynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Mae'r Gwasanaeth Nyrsio mewn Ysgolion yn awyddus i gefnogi unrhyw ddatblygiad proffesiynol parhaus er mwyn i'r ymgeisydd llwyddiannus wneud cais am rôl y Nyrs Ysgol SCPHN pe byddai ganddo ddiddordeb. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cynorthwyo i asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal plant oed ysgol, a chynnal cofnodion cywir.
 
Cynnal prosesau cyfathrebu da â staff yr ysgol, cyd-weithwyr proffesiynol, plant ysgol a pherthnasau.
 
Cynnal a diweddaru gwybodaeth glinigol a, lle bo hynny'n briodol, cynghori ac arwain eraill, gan gynnwys myfyrwyr ac athrawon. 
 
Bod yn rhan o addysg iechyd plant oed ysgol a staff ysgolion sy'n briodol i ysgolion unigol, e.e. cyflwyno sgyrsiau ar dyfu i fyny ac addysg iechyd rhyw.
 
Yn unol â gweithdrefnau diogelu plant, bod yn ymwybodol o faterion ynghylch canllawiau/polisïau amddiffyn plant, a'r angen am ddogfennaeth a chyfathrebu effeithiol a chadarn. 
 
Cymryd rhan yn rhaglenni imiwneiddio ysgolion, gan roi brechlynnau i blant a phobl ifanc a choladu ffurflenni cydsyniad sy'n dod i law gan rieni. 
 
Datblygu a chynnal perthynas waith ag ysgolion, plant a phobl ifanc penodol, a lle bo hynny'n briodol, â'u teuluoedd. 
 
Blaenoriaethu'r llwyth gwaith i leihau'r risg i blant sy'n agored i niwed, a sicrhau'r iechyd mwyaf cydradd i bawb. 
 
Cyflawni adolygiadau o Asesiadau Iechyd ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal, fel y'u dirprwyir gan y Nyrs Ysgol gyfrifol. 
 
Ymateb i hysbysiadau ynghylch presenoldeb mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, yn unol â pholisi'r Bwrdd Iechyd; ar hyn o bryd, mae'r Bwrdd yn blaenoriaethu amddiffyn plant, neu blant eraill sy'n agored i niwed yn yr ysgol. 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Cyfweliadau i'w cynnal ar 13/6/24

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ymhellach, yn ôl yr angen, yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig Oedolion/ Nyrs Gofrestredig Plant/ Bydwraig
  • Ymwybyddiaeth o Fframwaith LlC ar gyfer Nyrsio Ysgolion
Meini prawf dymunol
  • Mentoriaeth / Goruchwyliaeth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio gyda phlant a/neu bobl ifanc
  • Profiad o weithio mewn tîm
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o weithio gyda theuluoedd, ynghyd â'r gallu i amlygu dealltwriaeth o hawliau plant
  • Profiad o weithio yn y gymuned
  • Profiad o waith amddiffyn plant

Sgiliau Iaith

Meini prawf hanfodol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 5)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Stonewall Diversity ChampionDisability confident employerStonewall equality policy. Equality and justice for lesbians, gay men, bisexual and trans people.Carer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Avril Jones
Teitl y swydd
School Nurse Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07812 610523
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg