Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch-weithiwr Cymorth/Ymarferydd Cynorthwyol Therapi Galwedigaethol
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 31/08/2027 .Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael gyda'r Gwasanaeth Anableddau Dysgu Cymunedol i Oedolion, y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn Sir Benfro. Mae'r Gwasanaethau Anableddau Dysgu yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau blaengar o ansawdd uchel, gan weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill.
Mae rôl Ymarferydd Cynorthwyol Therapi Galwedigaethol yn hanfodol o ran cefnogi'r gwaith o weithredu ymyriadau therapiwtig, a hynny dan arweiniad y therapydd galwedigaethol cymwys. Bydd yn gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol sy'n cefnogi defnyddwyr gwasanaethau i gynyddu
eu hannibyniaeth a chyflawni eu nodau personol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n annibynnol ac ochr yn ochr â'r Therapydd Galwedigaethol ac aelodau eraill o'r tîm, i ddarparu ymyriadau therapiwtig wedi'u hasesu, sy'n ystyrlon i'r unigolyn, ac a allai gynnwys, er enghraifft, dechnegau
datblygu sgiliau, darparu cymorth a chyngor, yn ogystal â darparu cyfarpar. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar draws amrywiaeth o leoliadau a fydd yn cynnwys ysbytai, cartrefi unigolion, sefydliadau addysgol a chyfleusterau cymunedol a hamdden.
Mae'r gallu i addasu, sgiliau cyfathrebu da a hunangymhelliant i gyd yn hanfodol i'r rôl.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithio yn rhan o dîm dynodedig i ddarparu gwasanaeth Therapi Galwedigaethol sy'n effeithiol ac yn effeithlon i wella iechyd a llesiant pobl, yn unol â'r hyn a ddirprwyir gan Therapyddion Galwedigaethol.
Darparu'r gwasanaeth mewn modd ac mewn lleoliad sy'n briodol i anghenion y grŵp cleientiaid, gan ddilyn canllawiau, protocolau, polisïau a llwybrau gofal cytunedig. Gall hyn gynnwys gweithio gyda chyd-weithwyr neu ar eich pen eich hun; gydag unigolion a grwpiau; yng nghartrefi pobl,
mewn lleoliadau yn y gymuned ac mewn ysbytai.
Darparu gwasanaeth i grŵp cleientiaid dynodedig, yn seiliedig ar arweiniad y therapydd galwedigaethol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda llwyth achosion dirprwyedig, cynnal asesiadau penodol, datblygu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a darparu ymyriadau, a
hynny yn annibynnol, yn rhan o gynllun gofal cyffredinol.
Cydweithio â staff o fudiadau Iechyd, o Awdurdodau Lleol ac o fudiadau'r Trydydd Sector i gyflawni'r canlyniadau gorau.
Cefnogi gweithrediadau'r tîm, gan ddelio ag ymholiadau mewn modd priodol ac ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol sy'n berthnasol i'r rôl.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 29/05/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o gymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r gweithle, NEU hyfforddiant, cymwysterau neu brofiadau cyfatebol eraill
- Tystiolaeth o gymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r gweithle, NEU hyfforddiant, cymwysterau neu brofiadau cyfatebol eraill
- Tystiolaeth o gymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r gweithle, NEU hyfforddiant, cymwysterau neu brofiadau cyfatebol eraill
- Tystiolaeth o gymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r gweithle, NEU hyfforddiant, cymwysterau neu brofiadau cyfatebol eraill
- Gwybodaeth dda am Therapi Galwedigaethol trwy brofiad a/neu hyfforddiant a gafwyd
- Gwybodaeth ymarferol am gyfarpar therapiwtig
- Gwybodaeth am rolau grwpiau staff eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithaso
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o weithgareddau DPP sy'n gysylltiedig â'r rôl
- Hyfforddiant Asesydd Dibynadwy mewn cyfarpar ac addasiadau
- Gwybodaeth am Lywodraethu Clinigol, yn cynnwys ymchwil ac archwilio
- Gwybodaeth am fesurau canlyniadau perthnasol i amlygu effeithiolrwydd ymyriadau
- Gwybodaeth am fesurau canlyniadau perthnasol i amlygu effeithiolrwydd ymyriadau
- Gwybodaeth am amrywiaeth o ymyriadau adsefydlu ar draws pob therapi
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Ystod eang o brofiad o weithio mewn gwasanaeth therapi neu mewn maes perthnasol arall. Gall hyn gynnwys profiad gwirfoddol yn ogystal â phrofiad cyflogedig
- Profiad o weithio gydag amrywiaeth o bobl ag anghenion gwahanol
- Gweithio'n rhan o dîm
- Gweithio'n annibynnol.
- Rheoli eich amser eich hun a blaenoriaethu gweithgareddau
- Cyfrannu at wella gwasanaethau
- Hunanddatblygiad a dysgu
- Defnyddio technegau wedi'u haddasu i wella annibyniaeth y claf
Meini prawf dymunol
- Defnyddio technegau wedi'u haddasu i wella annibyniaeth y claf
- Profiad o weithio mewn lleoliad cymunedol
- Goruchwylio staff
- rofiad o ddefnyddio dull cyfweld ysgogiadol neu ymyriadau sy'n canolbwyntio ar atebion
- Profiad o ymdopi'n annibynnol â sefyllfaoedd trallodus neu emosiynol mewn amgylcheddau gwaith herio
- Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfathrebu rhithwir, h.y. Skype, Teams, Zoom
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfathrebu rhithwir, h.y. Skype, Teams, Zoom
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Barbara Strobel
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Occupational Therapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 244388
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Karry Hrysicos - [email protected]
01437 772819
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector