Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Camddefnyddio Sylweddau
Gradd
Band 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-ACS109-0524
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Elwyn îm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol,
Tref
Aberystwyth, Ceredigion
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/05/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
11/06/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithiwr Camddefnyddio Sylweddau Cymunedol

Band 5

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle wedi dod ar gael yn y tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol i Weithiwr Camddefnyddio Sylweddau Cymunedol ymuno â thîm camddefnyddio sylweddau sy'n datblygu yn ardal Ardal Ceredigion, wedi'i lleoli yn Aberystwyth.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad o weithio ym maes camddefnyddio sylweddau ac sy'n gallu amlygu cymwyseddau craidd a phenodol sy'n gysylltiedig â gwaith camddefnyddio sylweddau Haen 3, neu sy'n awyddus i ddatblygu ei sgiliau a'i brofiad o fewn gwasanaeth camddefnyddio sylweddau Haen 3.

Byddai profiad o asesu a thrin defnyddwyr gwasanaethau sy'n ddibynnol ar opiadau yn fantais, yn ogystal â gwybodaeth ymarferol dda o ddulliau lleihau niwed a rheoli cyfundrefnau rhagnodi o fewn fframwaith triniaeth sy'n canolbwyntio ar adferiad.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn rheolwr gofal ar gyfer y llwyth achosion, a rhaid i unrhyw newid sylweddol mewn amgylchiadau a allai arwain at fwy o risg i ddefnyddiwr y gwasanaeth neu unigolion eraill sydd o bwys iddo gael ei drafod yn y fforwm priodol.

Bydd hyn yn cynnwys:

Cynnal asesiad cynhwysfawr o broblem defnyddiwr y gwasanaeth o ran camddefnyddio sylweddau, yn cynnwys ei anghenion iechyd a llesiant a lefel ei gymhelliant i newid.

Cytuno ar gynllun gofal/ôl-ofal/gynllun rhyddhau gyda defnyddiwr y gwasanaeth, a allai gynnwys gweithwyr proffesiynol eraill neu atgyfeirio ymlaen fel y bo'n briodol.

Gweithredu ac adolygu'r cynllun gofal a'r gwerthusiad cysylltiedig yn unol â pholisi'r gwasanaeth a'r Bwrdd Iechyd.

Ystyried anghenion unigolion eraill sydd o bwys, ynghyd â'r cyfle i ymgysylltu â nhw mewn perthynas â'r cynllun gofal.

Gweithio ar y cyd ag asiantaethau partner a chyfrannu at gydrannau triniaeth a chlinigol y cynllun gofal y cytunwyd arno lle bo defnyddiwr y gwasanaeth yn destun gorchymyn triniaeth trwy'r llysoedd.

Rhaid i ddeiliad y swydd barchu hawliau, urddas a buddion defnyddwyr y gwasanaeth bob amser.

Dylai drin pob unigolyn mewn modd cyfiawn, ac ni ddylai wahaniaethu yn erbyn defnyddwyr y gwasanaeth, cyd-weithwyr, nac unrhyw un arall y bydd yn ymwneud ag ef yn rhan o'i waith, ar sail oedran, rhywedd, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, neu gyfeiriadedd 
rhywiol.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy: 

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 11/06/2024

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • QCF lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) neu gymhwyster cyfatebol, neu'n gallu rhoi tystiolaeth o gymwyseddau KSF/DANOS ar gyfer y rôl yn y portffolio DPP ac yn barod i weithio tuag at y QCF Lefel 3 gofynnol
  • Gradd mewn Camddefnyddio Sylweddau neu faes perthnasol, neu brofiad cyfatebol a pharodrwydd i weithio tuag at hynny
  • Gwybodaeth am MI, CBT, CTP neu ddulliau therapiwtig eraill
  • Gwybodaeth gadarn am faterion yn ymwneud a chamddefnyddio sylweddau
Meini prawf dymunol
  • Tystysgrif/Diploma mewn Cwnsela neu faes perthnasol arall

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad a gwybodaeth perthnasol diweddar ym maes Camddefnyddio Sylweddau
Meini prawf dymunol
  • Profiad diweddar mewn asiantaeth iechyd/gofal cymdeithasol
  • Profiad diweddar o Driniaeth Haen 3 darpariaeth

Galluoedd Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Stonewall Diversity ChampionDisability confident employerStonewall equality policy. Equality and justice for lesbians, gay men, bisexual and trans people.Carer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Geraint Hughes
Teitl y swydd
Service Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 244442
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Julia Gajlikowska (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Nyrs Camddefnyddio Sylweddau), Ceredigion

01970 636340

[email protected]

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg