Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cadwyn Gyflenwi
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
043-EA039-0524
Cyflogwr
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Llwynhelyg
Tref
Hwlffordd
Cyflog
£22,720 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/05/2024 23:59

Teitl cyflogwr

GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo

Cynorthwyydd Cadwyn Gyflenwi

Gradd 2

Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-

Cliciwch yma am nesges gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr:- Swyddi Gwag Cyfredol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

 Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- 

https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz

 Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM

 

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.

 

Trosolwg o'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel aelod o dîm prysur iawn sy'n ymwneud â derbynebu, dewis a phacio eitemau stoc, gosod cod bar a dosbarthu stoc i wardiau ac adrannau ledled yr ysbyty. Dadlwytho lorïau, gwneud cyfrif stoc blynyddol a chyflawni dyletswyddau storfeydd cyffredinol. Bydd y swydd yn cwmpasu ardal fawr o amgylch yr ysbyty a bydd yn golygu llawer o gerdded.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cyfnewid gwybodaeth yn fewnol ac yn allanol gyda staff a chyflenwyr ynghylch danfoniadau, gan gynnwys amseroedd dosbarthu a nwyddau wedi'u difrodi. Cofnodi nwyddau drwy'r system Oracle FMS. Sicrhau bod nwyddau'n cael eu cylchdroi a'u storio'n gywir (lle bo hynny'n berthnasol). Cynorthwyo i gymryd stoc pan ofynnir amdano. Ymgymryd â gwaith glanhau a gofal cyffredinol holl offer y storfa o ddydd i ddydd.  Cysylltu â phersonél ysbytai mewn pwyntiau derbyn a dosbarthu a sicrhau bod yr holl ddogfennaeth wedi'i llofnodi a'i chwblhau fel y bo'n briodol. Darparu a derbyn gwybodaeth reolaidd ar lafar a/neu'n ysgrifenedig, i hysbysu Cwsmeriaid a chydweithwyr.

Gweithio i'n sefydliad

Mae gennym safonau uchel ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn. Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol. Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • NVQ Lefel 2 mewn Warws a Dosbarthu (neu'n barod i weithio tuag at y cymhwyster)
Meini prawf dymunol
  • NVQ Lefel 3 mewn Warws a Dosbarthu. Gwybodaeth sylfaenol o eitemau meddygol

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am COSHH

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Customer Service ExcellenceHyderus o ran anabledd - ymroddedigDisability confident committedMenopause Workplace PledgeEnei MemberLexcel Legal Practice Quality MarkRhwydwaith Network 75 logoEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Paul King
Teitl y swydd
R&D manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01437 773319
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg