Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Fferyllydd Sylfaen
Band 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i fferyllydd clinigol brwdfrydig ac angerddol iawn i ymuno â'n tîm fferylliaeth integredig sy'n ehangu. Byddwch yn dod yn rhan o dîm unigryw mewn rôl sy'n canolbwyntio ar gleifion.
Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd o fewn y Gymuned Iechyd Integredig Canolog (CIIC) sydd wedi cael rhaglen ailddatblygu helaeth gan gynnwys adran fferylliaeth fodern, newydd. Mae’r CIIC yn cynnal nifer o wasanaethau rhanbarthol arbenigol yn cynnwys Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru, Canolfan Cardioleg Gogledd Cymru a’r Ganolgan Gofal Dwys Newyddenidigol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn cael y cyfle i weithio mewn amrywiaeth o leoliadau o fewn y gymuned iechyd integredig, gan gynnwys gofal eilaidd, gofal sylfaenol, ysbytai cymunedol a thimau adnoddau cymunedol. Fel fferyllydd clinigol, byddwch yn cymryd rhan yn uniongyrchol mewn gofal cleifion ac yn dylanwadu ar ddewisiadau triniaeth trwy fod yn rhan o benderfyniadau ar y pwynt rhagnodi, gan weithio fel rhan o’r tim amlddisgyblaethol.
Byddwch yn cael cyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau mewn amrywiaeth o arbenigeddau clinigol yn ystod eich hyfforddiant (Gwasanathau Meddygol, Llawdriniaeth, Chwarter Argyfwng, Uned Gynhyrchu Di-haint a chanser)
Mae'r rôl yn darparu cyfle ardderchog i ddatblygu eich sgiliau ymhellach yn y dyfodol a bydd cyfleoedd i ymgymryd â rhaglenni addysg ychwanegol e.e. Rhaglenni Sylfaen Ôl-gofrestru.
Os ydych chi'n gwerthfawrogi amrywiaeth, yn ffynnu ar heriau newydd, yn elwa o gydweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ac eisiau gwneud gwahaniaeth i iechyd cleifion, yna mae gyrfa gyda ni yn bendant i chi.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person o fewn dogfennau ategol neu cliciwch "Apply Now" i'w weld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd MPharm neu gyfwerth
- Aelod o’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- Gwybodaeth am fferylliaeth glinigol
- Gwybodaeth dda am therapiwtig
- Gwybodaeth am ffynonellau gwybodaeth electronig a rhai papur
Meini prawf dymunol
- Aelod gweithredol o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
- MSc Ôl-Radd / Diploma mewn Fferylliaeth Glinigol neu gyfatebol
- Cymhwyster hyfforddi
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Mae'n rhaid gallu dangos lefel addas o brofiad o weithio yn y sector a rheoli a/neu fferyllfa gymunedol
Meini prawf dymunol
- Profiad o systemau meddyginiaethau sy'n canolbwyntio ar gleifion
Cymhwyster a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da ar lafar/yn ysgrifenedig
Meini prawf dymunol
- Gallu trefnu'n dda
Arall
Meini prawf hanfodol
- Cymryd rhan yng ngwasanaethau'r fferyllfa dros wyliau cyhoeddus a phenwythnosau fel bo angen
- Parodrwydd i gymryd rhan yn rota ar alwad fel bo angen
Meini prawf dymunol
- Y gallu i symud rhwng safleoedd mewn ffordd amserol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ceri Ann Jones
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Pharmacy, Primary Care & Community
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07827997691
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Jenny Sparks
Fferyllydd Gofal Lliniarol
E-bost: [email protected]
Ffôn 03000 844043 bib 4925
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Meddygol a deintyddol neu bob sector